2012 Rhif 2091 (Cy. 241) (C. 83)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn cychwyn Rhan 1 (Atal Dros Dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig) o Fesur Tai (Cymru) 2011 (“y Mesur”) ar 3 Medi 2012. 

Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru o dan adran 1 o’r Mesur am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn ei ardal am gyfnod o hyd at 5 mlynedd, ar yr amod ei fod wedi cwblhau ymgynghoriad yn unol ag adran 2 o’r Mesur o fewn y cyfnod o 6 mis cyn y cais, a'i fod, yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwnnw, yn dod i'r casgliad bod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai (fel a nodir yn adran 1(2) o’r Mesur) yn bodoli. 

Dyma'r ail Orchymyn Cychwyn a wnaed o dan y Mesur.

 

NODYN AR Y GORCHYMYN CYCHWYN BLAENOROL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Darpariaethau

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Rhan 2 o

Fesur

Tai

(Cymru) 2011

Daeth y rhan fwyaf  o Ran 2 o’r Mesur i rym ar 18 Hydref 2011 a'r gweddill ar 2 Rhagfyr 2011

2011/2475 (Cy. 267 (C.89))

 


2012 Rhif 2091 (Cy. 241 ) (C. 83)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012

Gwnaed                                     9 Awst 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 90(2) o Fesur Tai (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

(2) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 3 Medi 2012; ac

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Tai  (Cymru) 2011.

Cychwyn Rhan 1 o Fesur Tai (Cymru) 2011 (Atal Dros Dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig) ar y dyddiad cychwyn

2. Daw Rhan 1 o'r Mesur (Atal Dros Dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig) i rym ar y dyddiad cychwyn.

 

 

 

Huw Lewis

 

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru

 

9 Awst 2012



([1])           2011 mccc 5.